....The UK’s leading supplier of organic poultry feed..Cyflenwr bwyd dofednod organig mwyaf blaenllaw y DU....

....

The UK’s leading supplier of organic poultry feed

..

Cyflenwr bwyd dofednod organig mwyaf blaenllaw y DU

....

....

Organic poultry feed production is important to us.  We have produced organic poultry feed for nearly 20 years, applying our key principles of producing excellent quality, balanced nutrition using the most suitable and best organic materials available.

Today, we can provide our customers with a range of over 85 organic poultry diets for both laying and meat birds.

As specialist organic poultry feed suppliers, we really understand what your flocks need, and have applied that depth of knowledge to our organic ranges.  Organic standards apply certain limits to the composition of poultry feeds, and we strive to ensure that our organic nutrition is optimal for the birds that we feed.  

Balanced, nutritious organic diets

We use approved fishmeal in our diets to help balance the nutrition, otherwise the feeds would be imbalanced and in deficit of certain nutrients, in particular amino acids, the building blocks of protein.  Whilst we do offer some diets without fishmeal, those diets can have some degree of compromise in their nutrition, so we would advise poultry farmers to use the better diets that include fishmeal.

At Wynnstay Humphrey Feeds, all the organic ingredients we select are chosen for the nutrients they provide, their palatability and cost-effectiveness.  We follow EU organic regulations, which are then certified by the Organic Farmers & Growers.  All our organic feed is free from:

  • genetically modified ingredients

  • pesticides

  • chemically treated grains

  • land animal by-products

  • antibiotics

You can be assured that your birds and the eggs they produce are compliant with all organic regulations.

..

Mae’r modd o gynhyrchu bwyd dofednod organig yn bwysig i ni.

Rydyn ni wedi bod yn cynhyrchu bwyd dofednod organig am bron 20 mlynedd, gan gymhwyso ein hegwyddorion allweddol, sef cynhyrchu maeth cytbwys, o ansawdd rhagorol gan ddefnyddio’r deunyddiau organig gorau a mwyaf addas sydd ar gael.

Heddiw, gallwn ni ddarparu amrywiaeth o fwy nag 85 o ddietau dofednod organig i’n cwsmeriaid, ar gyfer adar dodwy ac adar cig.

Fel cyflenwyr bwyd dofednod organig arbenigol, rydyn ni’n deall beth sydd ei angen ar eich haid, ac rydyn ni wedi defnyddio’r wybodaeth helaeth honno wrth gynhyrchu ein hystod o fwydydd organig.

Mae safonau organig yn gosod rhai cyfyngiadau penodol ar gyfansoddiad bwydydd dofednod, ac rydyn ni’n ymdrechu i sicrhau bod maeth organig ar y lefel orau ar gyfer yr adar rydyn ni’n eu bwydo.

Dietau organig cytbwys, maethlon

Rydyn ni’n defnyddio blawd pysgod sydd wedi’i gymeradwyo yn ein dietau i helpu i gydbwyso’r maeth; fel arall, ni fyddai’r bwydydd yn gytbwys ac fe fyddai diffyg rhai maetholion penodol, yn enwedig asidau amino, sef blociau adeiladu protein.

Er ein bod ni’n cynnig rhai dietau heb flawd pysgod, mae’n bosibl bod yna rywfaint o ddiffyg maeth yn y dietau hynny, felly fe fyddem ni’n cynghori ffermwyr dofednod i ddefnyddio’r dietau gwell sy’n cynnwys blawd pysgod.

Yn Wynnstay Humphrey Feeds, mae’r holl gynhwysion organig rydyn ni’n eu dethol yn cael eu dewis am y maetholion y maen nhw’n eu darparu, eu blasusrwydd a’u cost-effeithiolrwydd.

Rydyn ni’n dilyn rheoliadau organig yr UE, sydd yna’n cael eu hardystio gan yr Organic Farmers & Growers.

Mae ein holl fwydydd organig yn rhydd o:

  • gynhwysion sydd wedi’u haddasu’n enetig

  • plaladdwyr

  • grawn sydd wedi’i drin yn gemegol

  • sgil-gynhyrchion anifeiliaid y tir

  • gwrthfiotigau

Gallwch chi fod yn hyderus bod eich adar a’r wyau y maen nhw’n eu cynhyrchu’n cydymffurfio â’r holl reoliadau organig.

....

....
Organic mash

..

Llith organig

....

....

Wynnstay Humphrey Feeds is one of the few feed manufacturers able to supply organic mash.

The texture and nature of some organic raw materials makes it difficult to grind effectively, but because of our grinding process and its flexibility, we can achieve suitable organic grist.

Whilst it is usual to feed pellets to meat birds, mash is the most suitable form to present feed to laying birds.  Laying birds fed pellets can tend to eat too much, which in turn compromises the nutrition, and can lead to excessive egg size.  Wynnstay Humphrey Feeds are pleased to be able to produce an organic grist which is attractive to the birds, yet does not encourage welfare diminishing larger egg sizes.

We have a team of experienced poultry field specialists who are all extremely knowledgeable not only in the organic field, but the entire extensive (outside) poultry production processes. They will work with you every step of the way to help optimise the performance of your flock.

..

Mae Wynnstay Humphrey Feeds yn un o’r gweithgynhyrchwyr bwyd prin hynny sy’n gallu cyflenwi llith organig.

Mae gwead a natur rhai deunyddiau crai organig yn ei gwneud hi’n anodd eu malu’n effeithiol, ond oherwydd ein proses falu a’i hyblygrwydd, gallwn ni gynhyrchu mâl organig addas.

Er ei bod hi’n beth arferol bwydo adar cig â pheledi, llith yw’r ffurf fwyaf addas i roi bwyd i adar dodwy.

Mae adar dodwy sydd wedi’u bwydo â pheledi’n tueddu i fwyta gormod sydd, yn ei dro, yn effeithio ar y maeth y maen nhw’n ei gael, a gall hyn arwain at wyau sy’n rhy fawr.

Mae Wynnstay Humphrey Feeds yn falch o allu cynhyrchu mâl organig sy’n ddeniadol i’r adar, ond nad yw’n annog meintiau wyau mwy sy’n niweidiol i’w llesiant.

Mae gennym ni dîm o bobl sy’n arbenigo mewn meysydd dofednod sy’n hynod wybodus o ran y maes organig, ond sydd hefyd yn wybodus iawn o ran prosesau cyfan cynhyrchu dofednod (yn yr awyr agored).

Fe fyddan nhw’n gweithio gyda chi bob cam o’r ffordd i helpu i gael eich haid i berfformio ar ei gorau.

....